Advicelink Cymru (Citizens Advice) helpline 0800 702 2020

COUNCIL TAX help

17 FEBRUARY 2025 12:10

COUNCIL TAX help

You're not alone in worrying about struggling to pay your bills. It's a difficult time for people who are battling rising costs for food and essentials - as well as seeing their bills creep up.

Fortunately, there are options available to people struggling to pay their council tax, but you'll need to find out if you're eligible first. You might be entitled to pay less, or not at all, depending on your circumstances, because councils offer discounts and other reductions.

Firstly, because you're the only adult living in your home, your council tax bill can be reduced by a quarter. For example, if your bill is £1,000 for the year, you'll only have to pay £750 now that you live on your own. You'll need to tell your council someone has moved out of your home and the date that they left. You're entitled to the discount from when they moved out - even if it was a while ago.

When the council works out how many people live in a property, there are certain people that don't count - they're called 'disregarded people'. This includes under-18s, full-time students, long-term hospital patients, people with severe mental impairments, and many more. You can check our website for more information on disregarded people.

In Wales, some care leavers (under the age of 24) are disregarded too.

In some situations, everyone living in a home is disregarded. If this is the case, the council tax bill will be reduced by half. If everyone in a home is a student or severely mentally impaired, there'll be no council tax to pay.

If you live with an adult who isn't disregarded, but who is on a low income or receives certain benefits, you might be able to get a discount called a 'second adult rebate'. You can find out more about getting a second adult rebate on our website. This discount is not available in Wales.

If you or someone you live with is disabled, this can also affect your council tax banding. If your home has been adapted, you can ask to be placed down one band. For example, if you're living in a band C property that has been adapted for a disabled resident, you should only be charged council tax for a band B property.

There's also something called Council Tax Reduction, which is designed for people on low incomes. Your council will ask for details about your income and circumstances, to check if you're eligible. If you are, they'll reduce the amount of council tax you have to pay.

When it comes to Council Tax Reductions, different rules apply depending on whether you've reached State Pension age.

And lastly, if you're struggling to pay for essentials, your council can reduce your bill further, or cancel it altogether, under what's known as a 'discretionary reduction'. This usually only

happens if you can provide evidence that you're suffering severe hardship and can't afford to pay council tax. If you're in this situation, ask your council for help.

If you're not given a discretionary reduction, you might be able to appeal to a valuation tribunal. If the tribunal agrees with you, they can order your council to reduce or even cancel your council tax bill.

Whatever circumstances you're in, if you're struggling with your council tax payments, it's important to let your council know. Citizens Advice is also here to help you find a way forward, should you need our support.

 

Nid chi yw'r unig un sy'n poeni am allu talu'ch biliau. Mae'n gyfnod anodd i bobl sy'n brwydro yn erbyn costau cynyddol bwyd a hanfodion, ac ar yr un pryd maent yn gweld eu biliau'n cynyddu.

Yn ffodus, mae opsiynau ar gael i bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor, ond bydd angen i chi ddarganfod a ydych chi'n gymwys ar gyfer yr opsiynau hyn yn gyntaf. Efallai y bydd gennych hawl i dalu llai, neu ddim o gwbl, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan fod cynghorau'n cynnig gwahanol ostyngiadau.

Yn gyntaf, oherwydd mai chi yw'r unig oedolyn sy'n byw yn eich cartref, gallwch gael gostyngiad o 25% ar eich bil y dreth gyngor. Er enghraifft, os yw eich bil yn £1,000 am y flwyddyn, dim ond £750 y bydd yn rhaid i chi ei dalu bellach gan eich bod yn byw ar eich pen eich hun. Bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor bod rhywun wedi symud allan o'ch cartref a'r dyddiad iddynt adael. Mae gennych hawl i'r gostyngiad o'r adeg y gwnaethant symud allan, hyd yn oed os yw hynny'n sbel o amser yn ôl.

Pan fydd y cyngor yn cyfri faint o bobl sy'n byw mewn eiddo, nid ydynt yn cynnwys rhai pobl - fe'u gelwir nhw yn 'bobl a ddiystyrwyd'. Mae'r rhain yn cynnwys plant dan 18 oed, myfyrwyr llawn amser, cleifion ysbyty tymor hir, pobl â namau meddyliol difrifol, a llawer mwy. Gallwch wirio ein gwefan am fwy o wybodaeth am bobl a ddiystyrwyd.

Yng Nghymru, mae rhai sy'n gadael gofal (o dan 24 oed) yn cael eu diystyru hefyd.

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae pawb sy'n byw mewn cartref yn cael eu diystyru. Os felly, bydd bil y dreth gyngor yn cael ei haneru. Os yw pawb mewn cartref yn fyfyriwr neu â nam meddyliol difrifol, ni fydd unrhyw dreth gyngor i'w thalu.

Os ydych yn byw gydag oedolyn nad yw'n cael ei ddiystyru, ond sydd ar incwm isel neu'n derbyn rhai budd-daliadau, efallai y gallwch gael gostyngiad o'r enw 'ad-daliad ail oedolyn'. Gallwch ddarganfod mwy am gael ail ad-daliad oedolyn ar ein gwefan. Nid yw'r gostyngiad hwn ar gael yng Nghymru.

Os ydych chi neu rywun rydych yn byw gyda nhw yn anabl, gall hyn hefyd effeithio ar eich band y dreth gyngor. Os yw'ch cartref wedi'i addasu, gallwch ofyn am gael eich gosod i lawr un band. Er enghraifft, os ydych chi'n byw mewn eiddo band C sydd wedi'i addasu ar gyfer preswylydd anabl, dim ond ar gyfer eiddo band B y dylid codi treth gyngor arnoch.

Opsiwn arall yw'r hyn a elwir yn Gostyngiad y Dreth Gyngor, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pobl ar incwm isel. Bydd eich cyngor yn gofyn am fanylion am eich incwm a'ch amgylchiadau i wirio a ydych yn gymwys. Os ydych, byddant yn lleihau faint o'r dreth gyngor y mae'n rhaid i

chi ei thalu.

O ran Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn dibynnu ar a ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu beidio.

Ac yn olaf, os ydych yn cael trafferth talu am hanfodion, gall eich cyngor leihau eich bil ymhellach, neu ei ganslo'n gyfan gwbl, o dan yr hyn a elwir yn 'ostyngiad yn ôl disgresiwn'. Mae hyn fel arfer ond yn digwydd os gallwch ddarparu tystiolaeth eich bod yn dioddef caledi difrifol ac yn methu fforddio talu'r dreth gyngor. Os ydych yn y sefyllfa hon, gofynnwch i'ch cyngor am help.

Os na roddir gostyngiad yn ôl disgresiwn i chi, efallai y gallwch apelio i dribiwnlys prisio. Os yw'r tribiwnlys yn cytuno â chi, gallant orchymyn i'ch cyngor leihau neu ganslo eich bil y dreth gyngor hyd yn oed.

Waeth beth yw'ch amgylchiadau, os ydych yn cael trafferth gyda'ch taliadau'r dreth gyngor, mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch cyngor. Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yma i'ch helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen os oes angen ein cefnogaeth arnoch.

Share this article